Cyflwyniad

1. TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru) yw’r gymdeithas masnachu sy’n cynrychioli’r sector cynhyrchu annibynnol yng Nghymru. Mae oddeutu 40 o gwmnïau’n creu cynnwys teledu ac ar-lein i S4C a BBC Cymru Wales, ac mae nifer ohonynt hefyd yn cynhyrchu deunydd i ddarlledwyr cyhoeddus eraill y DU (y BBC, Channel 4, ITV a Channel 5) a darlledwyr lloeren a chebl. Yn ogystal, mae ein haelodau’n ymwneud â chydgynyrchiadau rhyngwladol ac yn gwerthu rhaglenni a fformatau dramor.

2. Yn ôl ffigyrau o 2015, mae Cymru’n gartref i 5,300 o fusnesau creadigol sy’n cynhyrchu trosiant o dros £2.1 billwn bob blwyddyn, ac yn cyflogi dros 49,000 o bobl.[1] Mae yma gryn botensial i dyfu’r diwydiant ymhellach, ond mae gofyn am strategaeth gyfunol sy’n dechrau gyda’r system addysg ac yna’n darparu cefnogaeth strategol i fusnesau creadigol yng Nghymru.

3. Mae’n hanfodol i’r gefnogaeth gael ei thargedu’n fanwl, a’i bod yn meithrin sector cynhyrchu sy’n wirioneddol gynhenid o ran ei wreiddiau a’i agwedd at ddatblygu sgiliau a chyflogaeth.

4. Rydym felly yn croesawu penderfyniad y Pwyllgor i archwilio posibiliadau cefnogi cynhyrchu ffim a theledu yng Nghymru, ac yn gobeithio bydd y pwyntiau isod o ddiddordeb.

Sicrhau eglurder ar nodau polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu cynyrchiadau ffilm a theledu mawr yng Nghymru, a thryloywder ynghylch pam a sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud yn y maes hwn

5. Mae tîm Polisi’r Cyfryngau profiadol gan Lywodraeth Cymru, sy’n cyfrannu at waith sawl adran. Bu’r tîm yn barod iawn i drafod materion o bwys gyda TAC, a chroesawyd hyn yn fawr. Buasem yn croesawu cyfleoedd pellach i TAC a sefydliadau eraill gyfrannu at strategaeth Llywodraeth Cymru.

6. Yn y gorffennol, bu Llywodraeth Cymru’n defnyddio Panel Sector y Diwydiannau Creadigol[2] a Phanel Buddsodi yn y Cyfryngau[3], ond yn absenoldeb datganiadau cyhoeddus yn ddiweddar, nid yw’n gwbl eglur bellach i ba raddau mae’r panelau hyn yn weithredol nac yn cynghori ar fuddsoddiadau Llywodraeth Cymru.

7. Mi fuodd yna gynllun i sefydlu fforwm polisi’r cyfryngau ar un adeg hefyd. Dywedodd y cyn-Weinidog dros Ddysgu Gydol Oes a’r Iaith Gymraeg ym mis Mehefin 2016 fod yna “benderfyniadau sylfaenol i’w gwneud mewn perthynas â threfniadau darlledu a rheoleiddio. Yn y cyd-destun hwn, mi fydd Llywodraeth Cymru’n sefydlu fforwm annibynnol newydd i’r cyfryngau i Gymru.”[4].

8. Cyfeiriwyd at y fforwm hwn hefyd mewn Memorandwm[5] at y Pwyllgor gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ym mis Tachwedd 2016: “Bydd Fforwm y Cyfryngau Llywodraeth Cymru’n ystyried nifer o faterion, gan gynnwys yr heriau sylweddol sy’n wynebu diwydiant y cyfryngau. Mae’n bwysig fod gennym leisiau annibynnol sy’n siarad ag awdurdod, ac yn trafod yn agored y cyngor maent yn ei gynnig i Lywodraeth Cymru; cyngor y byddwn yn ei ystyried o ddifrif wrth i ni ddatblygu polisïau ar faterion y cyfryngau a darlledu.”

9. Cytunai TAC â’r rhesymeg hon, a bu’n holi Llywodraeth Cymru yn gyson am y cynnydd ar union gylch gorchwyl ac aelodaeth arfaethedig y fforwm. Ni wireddwyd y cynllun yn y pen draw, a dealltwriaeth TAC yw nad oes bwriad bellach i sefydlu fforwm o’r fath. O ganlyniad, mae angen eglurder ar y modd bydd Llywodraeth Cymru’n sicrhau bod ganddi arbenigedd digonol i gynllunio’r strategaeth orau bosib ar gyfer diwydiant y cyfryngau yn y dyfodol.

10. Yn ogystal, gellid cynnig eglurder pellach ar bwy sy’n bennaf gyfrifol am bolisi’r diwydiannau creadigol yn Llywodraeth Cymru. Ar wahanol adegau, mae gwahanol weinidogion wedi arwain ar faterion sy’n ymwneud â’r diwydiannau creadigol a’r cyfryngau, gan wneud datganiadau ar y cyd weithiau, megis ym mis Tachwedd 2017.[6]

11. Hoffem weld canllawiau mwy eglur hefyd ar y gwahanol ffynonellau ariannu cynyrchiadau sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Mi fyddai’n ddefnyddiol medru gwahaniaethu rhwng Cyllideb Buddsoddiad y Cyfryngau a dulliau eraill o ariannu, megis Cyllid Busnes Ad-daladwy.

12. Yn olaf, mae TAC yn cefnogi argymhelliad yr Adolygiad annibynnol o S4C y dylai: “S4C sefydlu partneriaeth iaith gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i helpu cyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”[7] Fel cydlynydd y sector sy’n cynhyrchu’r rhan fwyaf o gynnwys comisiwn S4C, mae TAC yn awyddus i chwarae rhan yn y broses hon.

Y gefnogaeth a roddir gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu'r diwydiannau ffilm a theledu yng Nghymru, gan gynnwys:

         Effaith economaidd, a sut y mae’r effaith hon wedi’i gwasgaru ledled Cymru

         Effaith ddiwylliannol, gan gynnwys ar yr iaith Gymraeg

         Gwerth am arian

13. Ymddengys mai prif strategaeth Llywodraeth Cymru hyd yn hyn ydy buddsoddi’n helaeth mewn nifer fach o brosiectau mawr er mwyn denu cwmnïau allanol i sefydlu adnoddau newydd yng Nghymru, er nad yw’n glir faint o dwf go iawn na chyflogaeth tymor hir sydd wedi deillio o hyn. Mae buddiannau wedi eu cyfyngu’n ddaearyddol hefyd, a’r ddwy enghraifft amlycaf, Bad Wolf a Pinewood Wales, wedi eu lleoli yng Nghaerdydd. Nid yw’r gwaith i’w weld yn lledaenu’n ehangach ar draws Cymru.

14. Gwnaethpwyd buddsoddiad yn Pinewood Wales ar sail creu lefel benodol o swyddi. Rydyn ni’n deall bod y nifer go iawn o swyddi dipyn go lew yn is na’r targed hwnnw, gydag adroddiad gan y BBC yn datgan bod llai na 50 o bobl yn gweithio ar y safle ym mis Mawrth 2017[8]. Tybed a fyddai’r Pwyllgor yn dymuno darganfod a oes gan Lywodraeth Cymru allu i ofyn am ad-daliad o arian cyhoeddus fel rhan o’i chytundeb gyda Pinewood.

15. ran buddsoddiad Llywodraeth Cymru o £4m yn y cwmni Bad Wolf: “Mi fydd Llywodraeth Cymru’n awyddus i osgoi ailadrodd y penawdau oedd yn gysylltiedig â’i buddsoddiad arall mewn stiwdio yn achos Pinewood Wales.”[9] I sicrhau nad yw hyn yn digwydd, mae angen sefydlu system well i adrodd ar: y rhesymeg dros fuddsoddiadau o’r fath; pa fath o enillion allai fod yn bosibl ac unrhyw fuddion ehangach i’r sector a ddeilliodd o’r gwariant hwn. Gallai hyn fod ar ffurf adroddiad buddsoddiad blynyddol, gan gynnwys adroddiadau cynnydd a’r targedau a gyflawnwyd. Dylai fod gan Lywodraeth Cymru brosesau tryloyw yn eu lle i gyfrif am y modd caiff yr arian hwn ei wario.

16. Dros y cyfan, gellid gwneud rhagor o waith i sefydlu dull mwy cyfunol ar gyfer buddsoddiad yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Er bod Bad Wolf wedi creu gwaith i gwmnïau cefnogi cynhyrchu arbenigol, nid ydy’r sgiliau na’r buddion creadigol a masnachol o anghenraid wedi eu rhannu gyda’r gymuned gynhyrchu ehangach yng Nghymru.

17. Dylai fod cefnogaeth ar gael gan y Llywodraeth i gwmnïau o’r tu allan i Gymru sydd wedi gwneud ymrwymiad tymor hir yn y wlad ac, yn bwysicach fyth, i ddatblygu cwmnïau cynhenid Cymreig sydd ag uchelgais i ehangu i weddill y byd.

18. Buasai cwmnïau cynhyrchu cynhenid sefydlog, dichonadwy, yn croesawu hyd yn oed cyfran o’r buddsoddiad a wnaethpwyd mewn cwmnïau allanol er mwyn galluogi iddynt ddyrchafu eu busnes i’r lefel nesaf. Mae nifer o gwmnïau cynhyrchu yng Nghymru’n dechrau drwy gyfleu comisiynau i ddarlledwyr yng Nghymru, ond fwyfwy, mae uchelgais gan y cwmnïau hyn i gyflwyno’u talent, eu syniadau a’u persbectif i gynulleidfa ehangach drwy rwydwaith darlledu’r DU a’r tu hwnt drwy gydgynyrchiadau a dosbarthu rhyngwladol.

19. Ni ddylai unrhyw gamau i gynyddu lefel cynhyrchu yng Nghymru effeithio’n negyddol ar y farchnad gyfredol. Er enghraifft, yn ei hymateb i’r cynnig yn yr Adolygiad o S4C y dylai canolfan ddigidol S4C gynnwys elfen o gynhyrchu mewnol, dywedodd Llywodraeth y DU y dylid: “roi ystyriaeth ofalus i’r effaith ar sector cynhyrchu annibynnol hyfyw Cymru, sydd eisoes yn cynhyrchu llawer o gynnwys llwyddiannus o ansawdd uchel.”[10]

20. Yn ei ddogfen ‘Light Springs through the Dark: A Vision for Culture in Wales’, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith am faes teledu: “Yn y dyfodol, mi ddylen ni fynnu rhagor o gynnwys a rhaglenni gwell i Gymru, o Gymru ac am bob agwedd o fywyd Cymru, yn cynnwys ein diwylliant a’n treftadaeth.”[11]

21. Mae TAC wedi gweithio’n galed i gyflawni’r nod hwn drwy annog swyddogion o rwydweithiau darlledu teledu’r DU i dreulio amser yng Nghymru, i ddod i adnabod y sector cynhyrchu, ac yn benodol i ddod i ddeall y straeon, y syniadau, y dalent, y lleoliadau a’r persbectif y gall eu cynnig. Rydym wedi derbyn cefnogaeth yn hyn gan Swyddfa Cymru’r DU. Mae TAC hefyd yn trafod gyda Swyddfa Cymru’r DU ac Adran Masnach Ryngwladol y DU sut gallan nhw gefnogi’r sector yng Nghymru ymhellach.

22. Yn y ddogfen ‘Vision’ o 2016, nodwyd hefyd: “mae’n fwriad gennym sefydlu ‘Creative Wales’ i gefnogi’r diwydiannau creadigol; mi fydd y corff newydd hwn yn cynnal o leiaf 850 o swyddi a bydd £40m o wariant cynhyrchu ar gael ganddo. Byddwn yn helpu’r bobl sy’n derbyn cefnogaeth i ddechrau busnes a chynyddu entrepreneuriaeth i weithredu mewn gofodau creadigol cyfunol ac yn hyrwyddo cydweithrediad agosach gyda’r sector addysg, i sicrhau cyflenwad cyson o sgiliau i hybu twf y sector creadigol.”[12] Ni ŵyr TAC beth ddigwyddodd i fenter arfaethedig ‘Creative Wales’[13], a buasem yn croesawu eglurhad o’r cynlluniau ar gyfer y polisi hwn os oes bwriad i’w weithredu.

23. Mi fyddai o gymorth i sefydlu cronfa benodol i alluogi cwmnïau i gynyddu eu gallu i ymchwilio a datblygu syniadau i’w cynnig i rwydweithiau’r DU. Yn ogystal, dylid cynnal ymgyrch ystyrlon, tymor hir, cynaliadwy i hyrwyddo’r sector yng Nghymru i rwydweithiau darlledu’r DU, fel nad oes esgus gan y rhwydweithiau rheiny i beidio ag ystyried o ddifrif yr hyn sydd gan y sector i’w gynnig.

24. Mi fydd cyfle’n codi maes o law i Lywodraeth Cymru gydweithio â’r sector fel rhan o gais i fod yn gartref i un o ganolfannau Channel 4 y tu allan i Lundain fel rhan o’i strategaeth ‘4 All the UK’.[14] Mae TAC yn cefnogi cais i leoli canolfan yng Nghymru, a bydd yn cydweithio â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i lunio cais llwyddiannus.

25. Fel S4C, dydy Channel 4 ddim yn cynhyrchu ei gynnwys ei hun. Mae ei ymrwymiadau newydd yn cynnwys gwario o leiaf hanner ei gyllideb cynnwys yn y ‘cenhedloedd a’r rhanbarthau’ erbyn 2023. Mi fydd y ffaith fod ystod mor eang o gwmnïau cynhyrchu annibynnol cynhenid yng Nghymru’n ffactor bwysig yn llwyddiant unrhyw gais o’r fath.

Sut gall Cynllun Gweithredu Economaidd newydd Llywodraeth Cymru effeithio ar gefnogaeth i’r sector

26. Mae ‘Cynllun gweithredu ar yr economi’ Llywodraeth Cymru yn datgan: “Ers 2009, rydym wedi cefnogi sectorau unigol, ac mae nifer o’r rhain, megis y diwydiannau creadigol … wedi llwyddo’n aruthrol.”[15] Mae’n wir fod ambell gwmni wedi cynyddu ei allforion a chomisiynau rhwydwaith, ond dadl TAC yw y gallai cynllun cydlynol o gymorth penodol gan y Llywodraeth helpu wrth ddyrchafu rhagor o fusnesau cynhyrchu yng Nghymru i’r lefel nesaf.

27. Mae’r Cynllun yn manylu ar ‘Gytundeb Economaidd’ gyda byd busnes, sy’n berthnasol i ariannu uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru yn unig, ac sy’n gofyn bod busnesau sy’n chwilio am fuddsoddiad yn cynnwys ffactorau amrywiol yn eu cynllun busnes fel ‘amod sylfaenol’. Un o’r rhain ydy “Twf posibl (wedi ei fesur, er enghraifft, drwy gyfraniad at gyflogaeth, cynhyrchedd, neu effeithiau lluosogol drwy’r gadwyn gyflenwi).”[16]

28. Mae TAC yn gobeithio caiff hyn ei weithredu’n dynn ond yn gymesur, h.y. dylai nifer y swyddi newydd fod yn gysylltiedig â lefel y buddsoddiad, a’r ‘twf posibl’ yn ddigon sylweddol i gyfiawnhau buddsoddiad.

29. Mae’r Cynllun ar gyfer yr economi yn datgan bod rhaid i gynigion busnes hefyd gynnwys un neu fwy o ‘Bwyntiau Gweithredu’. Yn sicr, gall busnesau creadigol foddhau rhai o’r rhain, gan gynnwys ‘Allforion, Masnach a Chyflogaeth o Safon Uchel’ a ‘Sgiliau Datblygu a Gwaith Teg’.[17]

Ymchwilio i sut mae Ffilm Cymru, y BFI ac eraill yn cefnogi’r sector, a sut mae’r gwaith hwn yn ategu gwaith Llywodraeth Cymru yn y maes

30. Mae Ffilm Cymru a’r BFI yn cefnogi ffilmiau nodwedd, ffilmiau byr, animeiddio a dogfennau nodwedd. Er efallai nad ydynt yn bartneriaid naturiol i rai cwmnïau cynhyrchu annibynnol yng Nghymru sy’n cynhyrchu cynnwys teledu a digidol, mae’r aelodau rheiny o TAC sydd wedi derbyn cyllid wedi canmol eu cefnogaeth, gan gynnwys y gwerth ychwanegol ar ben yr arian ei hun. Mae’n debygol na fyddai sawl prosiect wedi gweld golau dydd heb gymorth Ffilm Cymru/y BFI, yn enwedig arian datblygu, sy’n gynyddol brin gan ddarlledwyr.

31. Mae Llywodraeth y DU wedi gwahodd y BFI i weinyddu’r gronfa gwasanaeth cyhoeddus cystadleuol (PSCF). Mi fydd y gronfa hon yn dosbarthu dros £60m dros gyfnod o dair blynedd i hwyluso creu mwy o gynnwys darlledu cyhoeddus mewn genres mwy arbenigol. Cynhaliodd Adran Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar y gronfa llynedd, ac yn y casgliadau, datgelodd fod “y gefnogaeth gryfaf ar gyfer cynnwys plant, yna’r cenhedloedd a’r rhanbarthau, y celfyddydau a cherddoriaeth glasurol, a chynnwys amrywiaeth.”[18]

32. ganlyniad, cyhoeddodd DCMS y byddai’r gronfa’n canolbwyntio ar deledu plant, ac y byddai’r cenhedloedd a’r rhanbarthau’n un o’r meini prawf wrth bennu pa geisiadau am gynnwys fydd yn cael eu hariannu. Dywedodd hefyd mai rhan o waith y BFI fyddai asesu “p’un ai gellid ystyried ieithoedd cynhenid yn gymwys fel rhan o faen prawf y cenhedloedd a’r rhanbarthau.”[19] Mae manylion y broses yn dal i fod ar y gweill, ac mae TAC yn cydlynu gyda DCMS a’r BFI i sicrhau bod y broses mor hylaw â phosibl i gynhyrchwyr yng Nghymru gyflwyno ceisiadau i’r gronfa.

Y gefnogaeth a roddir i ddatblygu sgiliau a mynd i’r afael â phrinder sgiliau yn y diwydiant, ac a oes digon o ddata i fapio’r sgiliau presennol

33. Ers i asiantaeth hyfforddiant y sector darlledu, Cyfle, ddirwyn i ben yn 2015[20], a Skillset Cymru ar ei ôl yn 2016, mi fu prinder dybryd o ddarpariaeth hyfforddiant ar gyfer y sector. Cynigir cyrsiau technegol gan gyrff megis CULT Cymru (o dan adain BECTU) i weithwyr llawrydd ac eraill. Er gwaethaf hyn, mae angen mawr am ddatblygiad proffesiynol parhaus, sy’n hanfodol i uwchsgilio staff profiadol, a chyrsiau cynhyrchu, sy’n hanfodol wrth ddenu newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant yn gyson.

34. Er mwyn datrys y broblem o ddiffyg darpariaeth sgiliau, mi ymrwymodd S4C yn 2017 i gefnogi TAC i gynnal cynllun hyfforddiant cynhwysfawr ledled y sector. Mae TAC wedi cyflwyno cynllun a chyllideb arfaethedig i S4C i’r perwyl hwn.

35. Mae TAC wedi bwrw ymlaen i drefnu hyfforddiant, ac ers mis Mai 2017, mae wedi rhedeg pedwar cwrs Diogelu Plant yn y Cyfryngau (gyda’r NSPCC) a dau gwrs Iechyd a Diogelwch (gyda 1st Option), yng Nghaerdydd a Chaernarfon, i dros 70 o weithwyr y diwydiant. Rydyn ni bellach yn datblygu strategaeth bwrpasol yn unol â blaenoriaethau ein haelodau.

36. Er mwyn i sector creadigol Cymru barhau i ffynnu, mae angen cyflenwad uwch o bobl ifanc sy’n dod drwy’r system addysg ac sy’n frwdfrydig dros yr ystod eang o yrfaoedd sydd ar gael yn y diwydiannau creadigol. Rydyn ni’n croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnwys ‘y celfyddydau mynegol’ yn un o’i chwe ‘Maes Dysgu a Phrofiad.[21] Mae’n wrthgyferbyniad ffafriol â Lloegr, lle mae’r diwydiannau creadigol yn pryderu bod y cwricwlwm yn canolbwyntio ar bynciau craidd ‘STEM’[22] er anfantais i bynciau celfyddydol.[23]

37. Yn ystod hydref 2017, cafwyd diweddariad gan Lywodraeth Cymru i’w chynlluniau addysgiadol. Roedd yn cynnwys yr uchelgais y dylai ysgolion, erbyn 2021, fod yn “sefydliadau creadigol, cymunedol sy’n fywiog, yn gynhwysol, yn agored, yn gyfathrebol ac yn weithgar mewn rhwydweithiau ehangach.”[24] Gall cwmnïau annibynnol lleol ddarparu enghreifftiau go iawn i bobl ifanc o yrfaoedd creadigol, sy’n rheswm arall i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio’i buddsoddiad ar gynnal amgylchedd sy’n cefnogi rhwydwaith o gwmnïau cynhyrchu ledled Cymru gyfan.

38. Ar y pwynt hwn, mae Bargen Sector y Diwydiannau Creadigol[25] diweddar Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd cyllid ar gael ar gyfer ymgyrch Gyrfaoedd Creadigol ledled y DU, i’w arwain gan y Creative Industries Federation[26], y mae TAC yn aelod ohono. Mi fydd TAC yn cydlynu â CIF ar y dulliau gorau o gynnal yr ymgyrch yng Nghymru, gan annog rhagor o bobl ifanc i symud i yrfa yn y gwahanol feysydd sgiliau sydd eu hangen yn sector cynhyrchu’r cyfryngau.



[1] Ffigyrau o’r ddogfen ‘Light Springs through the Dark: A Vision for Culture in Wales’ (‘Vision’), Ken Skates AC – Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Rhagfyr 2016, t.6

[2] http://gov.wales/topics/businessandeconomy/our-priority-sectors/creative-industries/CreativeIndustriesSectorPanel/?skip=1&lang=cy

[3] http://gov.wales/topics/businessandeconomy/our-priority-sectors/creative-industries/media-investment-panel/?skip=1&lang=cy

4 Darlledu yng Nghymru. Alun Davies AC. Gweinidog dros Ddysgu Gydol Oes a’r Iaith Gymraeg, Cofnod y Trafodion, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Datganiad 6, 21 Mehefin 2016

5 Memorandwm ar Gynigion Cyllideb Drafft Diwylliant ar gyfer 2017-18. Cyflwynwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i Bwyllgor Diwylliant, yr iaith Gymraeg a Chyfathrebu, 2 Tachwedd 2016

6 Datganiad Ysgrifenedig – Update on Creative Industries in Wales. Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Llywodraeth Cymru, 15 Tachwedd 2017

6 ‘Creu S4C ar gyfer y Dyfodol: Adolygiad Annibynnol’, Euryn Ogwen Williams, Rhagfyr 2017, t.22

8 Film studio Pinewood Wales paid no rent for two years’, BBC News, 29 Awst 2017, cyrchwyd 6 Ebrill 2018

9 ‘2017 in Review: Studios’, Broadcast, 8 Rhagfyr 2017, t.15

10 Ymateb y Llywodraeth i’r adolygiad annibynnol ‘Creu S4C ar gyfer y dyfodol’, Department for Digital, Culture, Media & Sport, 29 Mawrth 2018, t.4

11 ‘Vision’, Ken Skates AC – Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Rhagfyr 2016

12 ‘Light Springs through the Dark: A Vision for Culture in Wales’, Ken Skates AC – Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Rhagfyr 2016, t.7

13 Ni ddylid drysu rhwng y rhain a dyfarniadau ‘Cymru Greadigol’ Cyngor Celfyddydau Cymru. Cyrchwyd 9 Ebrill 2018

13 http://www.channel4.com/info/press/news/channel-4-launches-4-all-the-uk

15 Ffyniant i Bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi. Llywodraeth Cymru, Rhagfyr 2017, t.ii

16 Ffyniant i Bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi. Llywodraeth Cymru, Rhagfyr 2017, t.10

17 Ffyniant i Bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi. Llywodraeth Cymru, Rhagfyr 2017, t.11

18 Public Service Broadcasting Contestable Fund: Government Response. DCMS 30 Rhagfyr 2017, t.6

19 Public Service Broadcasting Contestable Fund: Government Response. DCMS 30 Rhagfyr 2017, t.9

20Media training provider Cyfle to close with loos of four jobs’, BBC News Online, cyrchwyd 9 Ebrill 2018

21 Cwricwlwm i Gymru, cwricwlwm am oes, Llywodraeth Cymru, Hydref 2015, t.10

22 Y Gwyddorau, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg

23 Gweler: ‘Devastating’ decline of arts in schools surges on, Arts Professional, 22 Mehefin 2017 https://www.artsprofessional.co.uk/news/devastating-decline-arts-schools-surges cyrchwyd 8 Ebrill 2018

24‘Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl’, Cynllun gweithredu 2017–21, Llywodraeth Cymru, Medi 2017, t.11

25 https://www.gov.uk/government/news/creative-industries-sector-deal-launched  

26 https://www.creativeindustriesfederation.com/